|
Hoffem eich diweddaru ar y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol yng nghanol tref Ystradgynlais. Yn gyntaf, hoffem ddweud ein bod ni wedi gweld gostyngiad yn nifer yr adroddiadau i’r heddlu yn dilyn problemau megis gollwng sbwriel, sŵn, a difrod troseddol ers dechrau’r haf. Yn anffodus, bu cynnydd eto’r mis hwn yn nifer yr adroddiadau i’r heddlu ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol fel gollwng sbwriel, pobl ifainc yn gweiddi a sgrechian ac yn taflu cerrig/pwmpenni ac ati, a’r defnydd o e-feiciau ac e-sgwteri. Ry’n ni wedi cyhoeddi tri llythyr rhybudd y mis hwn am ollwng sbwriel a dau lythyr rhybudd ymddygiad gwrthgymdeithasol am daflu cerrig. Bydd llythyr arall yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf. Ry’n ni’n apelio at rieni i siarad â’u plant yn ystod y cyfnod yn arwain at nos Galan Gaeaf. Ry’n ni eisiau i blant cael hwyl a mwynhau cyffro nos Galan Gaeaf, ond atgoffwch nhw i barchu eiddo pobl eraill a’n cymuned leol. Diolch am ddeall a chydweithredu.
|